top of page
Responsible AI Art.png

Symposiwm y Celfyddydau, y Dyniaethau a Deallusrwydd Artiffisial Cyfrifol

Ydych chi’n ymchwilydd yn y Celfyddydau, y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth â diddordeb ymchwil mewn Deallusrwydd Artiffisial (DA)?  


Mi fydd y Symposiwm hwn o ddiddordeb i chi! !
Mae croeso i holl staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ymuno â ni yn 

Symposiwm y Celfyddydau, y Dyniaethau a Deallusrwydd Artiffisial Cyfrifol
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ar 29 Mai 2024.  

Cadeirir gan Dr Thomas Dekeyser (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Alan Chamberlain (Prifysgol Nottingham) 

 

Bwriad y digwyddiad yw dod ag ysgolheigion y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth ynghyd i gydweithio a thrafod y cwestiwn amserol, “Sut gall y Celfyddydau a’r Dyniaethau alluogi a chefnogi ymchwil yn ymwneud â DA Cyfrifol ar lefel bersonol, o ran ymarfer ac yn athronyddol?”   

Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn treulio amser yn ystyried natur ‘cyfrifoldeb’ a sut olwg sydd ar DA Cyfrifol gan ganolbwyntio ar dri maes penodol:  Ecoleg a Bywyd Gwyllt, Hunaniaeth a Lles, a Chynrychiolaeth, Cred a Threftadaeth.  

Bydd y diwrnod yn cael ei rannu’n 3 sesiwn: 

Cyflwyniadau (10yb - 11yb): yn gyntaf bydd y trefnwyr yn rhoi braslun o’r diwrnod a’i nodau, yna bydd cyfle gan bob un sy’n cyfrannu i gyflwyno eu diddordeb yng nghwestiwn canolog y digwyddiad, a hynny mewn ychydig funudau (hyd at 5).  

 

Gweithdai (11yb - 1yp): tri gweithdy i’w cynnal ar yr un pryd: 

‘DA Cyfrifol ac Ecoleg’  - Chloe Griffiths

‘DA Cyfrifol a Hunaniaeth’ - Thomas DeKeyser

‘DA Cyfrifol, Cynrychiolaeth, Cred a Threftadaeth’. - Alan Chamberlain

Prif anerchiad gan yr Athro Alan Dix (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) (2-3yp)

 

 

  Athro Alan Dix

Cofrestru

Gallwch gofrestru trwy anfon e-bost atom gan ddweud wrthym (3-4 llinell) am eich diddordeb mewn DA, a pha weithdy yr hoffech ymuno ag ef.  Byddwn yn rhoi gwybod i chi am leoliad y digwyddiad.

Cliciwch yma i anfon e-bost atom

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno. 
10.00 - Canolfan Ddelweddu 0.06

Noddir y digwyddiad gan Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial Prifysgol Aberystwyth, nT.AI.L (Rhwydwaith Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau) a Rhwydwaith DA Cyfrifol, Ymchwil a Chynrychiolaeth (Rhwydwaith R3) (Prifysgol Nottingham) ac Yr Adran Seicoleg (Prifysgol Aberystwyth)


Saesneg

Aber Uni logo - MONO NAVY.jpg

Let’s Work Together

Get in touch so we can start working together - Join the Network 
 

Dr Alan Chamberlain 

RAiUK_Logo.png
Unknown_edited.png

The R3 Network is supported by the following Engineering and Physical Sciences Research Council projects.

AI UK: Creating an International Ecosystem for Responsible AI Research and Innovation (RAI UK), (RAKE Responsible Innovation Advantage in Knowledge Exchange) [grant number EP/Y009800/1]

Horizon: Trusted Data-Driven Products [grant number EP/T022493/1]
UKRI Trustworthy Autonomous Systems Hub (The TAS RRI II project) [grant number EP/V00784X/1] 

bottom of page